Ein gweledigaeth ar gyfer Dinas Carbon Niwtral erbyn 2030

Caerdydd Un Blaned - ymateb strategol i’r argyfwng hinsawdd.

Mae Newid yn yr Hinsawdd eisoes yn llywio ein bywydau. Rydym yn byw mewn argyfwng hinsawdd gyda rhybuddion a thystiolaeth amlwg yn fyd-eang bod angen gweithredu ar frys os ydym am osgoi’r peryglon sydd o’n blaenau. Mae’r Strategaeth Caerdydd Un Blaned (6mb PDF) yn cynnig ystod eang o gamau gweithredu uchelgeisiol a fydd yn dechrau bod yn sail i gynllun cyflawni i sicrhau dinas Carbon Niwtral. Ei nod yw gwneud hyn mewn ffordd sy’n cefnogi economïau gwyrdd newydd a mwy o les cymdeithasol yn y ddinas.

Darllenwch ein datganiad i’r wasg ar y strategaeth .

Darllenwch ein Cynllun Gweithredu (9mb PDF) .

Darllenwch ein hadolygiad diweddaraf o’r cynllun Gweithredu (4mb PDF) .

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y diweddaraf:

One Planet globe

Mae gan Gyngor Caerdydd darged i fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030 Mae gwaith wedi dechrau gyda phartneriaid ledled y ddinas i ddatblygu map ffordd a chynllun gweithredu ar gyfer Dinas Carbon Niwtral erbyn 2030.

Polluted skies vs green environment
Os na wnawn unrhyw beth
Os byddwn yn gweithredu nawr

Lle rydym arni nawr – Dadansoddiad Carbon

Os ydym am i Gaerdydd fod yn garbon niwtral, yna un o’r pethau y mae angen i ni ei wybod yw faint o nwyon tŷ gwydr yr ydym ni fel y Cyngor yn gyfrifol amdanynt a faint mae dinas Caerdydd yn ei chyfanrwydd yn ei gynhyrchu.

Er ein bod wedi bod yn gweithio ar leihau ein hôl troed carbon ers blynyddoedd, dewison ni 2019/20 fel ein blwyddyn sylfaenol ac rydym wedi bod yn mesur ein cynnydd ers hynny. Drwy wneud hyn rydym yn gweithredu’n unol â chanllawiau adrodd Llywodraeth Cymru.

map showing 1,626,059 tonnes C02Rydym wedi defnyddio ystadegau a gyhoeddwyd gan Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) y Llywodraeth i gyflwyno’r darlun ar gyfer y ddinas gyfan.

Yn 2019 amcangyfrifwyd mai 1.8 miliwn tunnell o CO2e  oedd swm yr allyriadau ar draws y ddinas gyfan. Mae’r data diweddaraf sydd ar gael ar gyfer 2020 yn dangos gostyngiad o 12% ers 2019, sef 1.6 miliwn tunnell CO2e.

Dyma sut mae’r allyriadau hynny’n cael eu dadansoddi:

Allyriadau o drafnidiaeth ac eiddo domestig oedd y cyfranwyr mwyaf o bell ffordd i’r allyriadau yn y ddinas ac felly mae’r rhain yn feysydd ffocws allweddol yn ein Strategaeth Caerdydd Un Blaned.

*Wedi dod o ffigurau BEIS (Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol).

Dangosodd y data gwreiddiol a ddefnyddiwyd i gyfrifo llinell sylfaen carbon y Cyngor mai 26,118 tunnell o CO2 e oedd swm yr allyriadau uniongyrchol yn 2019/20. Dangosodd y ffigwr hwnnw ostyngiad o 13% yn 2022/22, i 22,695 tunnell CO2 e.

Dyma ddadansoddiad o hynny:

Beth rydym yn ei wneud – Ein prosiectau

Fel cyngor byddwn yn:

  • Lleihau’r ynni a ddefnyddiwn a chynyddu effeithlonrwydd ynni yn ein holl adeiladau.
  • Cynyddu’r cyflenwad ynni adnewyddadwy.
  • Symud i ddulliau teithio mwy cynaliadwy a mwy llesol.
  • Deall a lleihau faint yr allyriadau nwyon tŷ gwydr o nwyddau a gwasanaethau a brynir.
  • Gwneud dewisiadau doethach i wastraffu llai ac ailgylchu mwy.
  • Cynyddu’r cyfle i amsugno allyriadau gyda’n seilwaith gwyrdd.
  • Gwella ein gallu i wrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd ledled y ddinas drwy wella ein seilwaith i ymdopi â gwres a glaw eithafol.
  • Blaenoriaethu camau gweithredu i gael yr elw gorau ar gyfer ein buddsoddiadau yn amgylcheddol, yn economaidd ac yn gymdeithasol.
  • Tyfu mwy o’n bwyd ein hunain a hyrwyddo bwyta’n iach.

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus a rhanddeiliaid y ddinas i’w hannog i wneud yr un camau.

Bydd yr holl brosiectau rydym wedi cytuno arnynt ac sydd yn yr arfaeth, yn cael gwared ar 360,250 tunnell o CO₂e. Mae hynny’n golygu y bydd 22% o allyriadau ledled y ddinas yn cael eu hatal.

Mae ein prosiectau ehangach yn cwmpasu themâu allweddol Trafnidiaeth, Ynni, Rheoli Gwastraff, yr Amgylchedd Adeiledig ac Ansawdd Tai, Bwyd, Seilwaith Gwyrdd, a Dŵr.

Er enghraifft:

  • Sefydlu piblinell o gynlluniau cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd posib i ychwanegu at ein fferm solar 9MW, cynllun hydro Cored Radur ac ystod o offer cynhyrchu solar ar doeau.
  • Ôl-ffitio adeiladau’r Cyngor gyda mesurau ynni effeithlon.
  • Newid cerbydau ein fflyd i rai trydan a thanwydd allyriadau isel arall fel hydrogen.
  • Gweithio gyda’n partneriaid yn y sector cyhoeddus drwy Fwrdd Argyfwng Hinsawdd i nodi a gweithredu prosiectau partneriaeth sy’n fuddiol i’r ddwy ochr.
  • Dyrannu cyllid cyfalaf i gyflymu nifer o brosiectau braenaru lleihau carbon newydd, er enghraifft gwefru cerbydau trydan, pympiau gwres ffynhonnell aer, rheolaethau adeiladu clyfar a thriniaethau arloesol ar y ffordd.
  • Gweithredu ein rhwydwaith gwres ardal carbon isel ym Mae Caerdydd, a fydd ar waith yn 2024. Ni fydd angen mwyach i adeiladau sy’n cysylltu â’i gilydd ddefnyddio tanwydd ffosil ar gyfer gwresogi a dŵr poeth – bydd hyn yn lleihau eu hallyriadau sy’n gysylltiedig â nwy gan 80%.
District heat network
Prosiectau Un Blaned 22%

Rydym hefyd yn anelu at:

  • erbyn 2024, bydd holl adeiladau newydd y Cyngor sydd ar y ffordd yn cyflawni lefelau perfformiad bron di-garbon.
  • Gwneud y newidiadau angenrheidiol i’n system drafnidiaeth i annog y defnydd o deithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus gan gynnwys cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r Metro.
  • Parhau i gyflymu ein prosiect ôl-ffitio domestig, er mwyn sicrhau gwell effeithlonrwydd ynni a rheoli costau ym mhob deiliadaeth eiddo domestig.

Ac os byddwn ni’n gwneud nhw’n iawn, bydd y prosiectau hyn yn rhoi cyfle i adeiladu swyddi cynaliadwy a sectorau economaidd newydd, sicrhau mwy o les economaidd a thegwch yn y ddinas, a’n llywio i ddyfodol glanach, a gwyrddach.

Ffyrdd y gallwch helpu

  • Gosodwch fesurydd deallus i'ch helpu i ddeall a rheoli'r defnydd o ynni a chostau.
  • Gwiriwch yr inswleiddio yn eich llofft, drysau a ffenestri i atal gwres rhag dianc ac i leihau eich biliau a'ch ôl troed carbon. Os ydych yn byw mewn llety rhent gwnewch yn siŵr bod eich landlord yn ymwybodol o'r rheolau ynghylch effeithlonrwydd ynni ac anogwch ef i ymchwilio i gyfleoedd Gwella
  • Newidiwch i dariff ynni gwyrdd. Mae hyn yn golygu dewis cyflenwr a thariff sydd ond yn cael ynni gan gynhyrchwyr adnewyddadwy fel gwynt, solar neu Dreulio Anaerobig. Gallai hyn leihau allyriadau gan 79%, gan arbed 1.25 tunnell o CO2 y flwyddyn ar gyfer y cartref cyffredin.
  • Ystyriwch osod paneli PV solar neu ddŵr poeth solar yn eich cartref.
  • Inswleiddiwch eich cartref i leihau drafftiau a swm y gwres a gollir. Wrth arbed ynni drwy inswleiddio’n well, gwresogi neu gyfarpar doethach, gallai'r aelwyd ar gyfartaledd leihau ei hallyriadau carbon gan 0.6%.
  • Ystyriwch faint o ynni rydych chi'n ei ddefnyddio. A allech chi ddefnyddio llai neu ddiffodd offer i arbed carbon ac arian? Gall gostwng eich gwres gan 1°C arbed 3% ar eich biliau ynni.
  • Os ydych chi’n cael budd-dal sy’n dibynnu ar ‘brawf modd’ neu os oes gennych gyflwr iechyd sy’n gwaethygu mewn cartref oer ac rydych yn byw mewn eiddo preifat aneffeithlon, gallech fod yn gymwys i gael cymorth NYTH i osod mesurau effeithlonrwydd ynni.
  • Gwirfoddolwch gyda'n Tîm Ceidwaid y Parc Ceidwaid y Parc neu ymunwch â Grŵp Cyfeillion parc lleol sydd â diddordeb cyffredin mewn materion bioamrywiaeth.
  • Defnyddiwch eich gardd mewn modd mwy cynaliadwy drwy blannu coed a llwyni neu dyfu ffrwythau a llysiau fel dewis amgen i balmantu, glaswellt artiffisial neu ddec.
  • Pan fo'n bosibl cerddwch neu beiciwch er mwyn osgoi allyriadau carbon yn gyfan gwbl.
  • Ystyriwch newid i gerbyd trydan neu gerbyd hybrid os ydych yn newid eich car gan y gallai hyn arbed 2 dunnell o garbon y flwyddyn. Os nad yw hyn yn fforddiadwy, dewiswch gerbyd diesel neu betrol mwy effeithlon, gan y gallai hyn arbed 0.9 tunnell o CO2 bob blwyddyn.
  • Meddyliwch sut y newidiodd eich patrymau teithio a sut y gwnaethoch siopa'n lleol yn ystod y cyfnod cloi, a gweld a allwch chi barhau â'r arferion hyn yn y dyfodol.
  • Rhowch unrhyw eitemau mawr nad oes eu hangen arnoch ac rydych chi am eu taflu i rywun mewn angen neu sefydliad sy'n eu cymryd. Gellir ailddefnyddio ac ailddosbarthu'r eitemau hyn i rywun arall mewn angen.
  • Wrth sychu dillad, os yw'r tywydd yn caniatáu, sychwch eich dillad gan ddefnyddio llinell ddillad neu awyrydd yn hytrach na pheiriant sychu.
  • Defnyddiwch botel ddŵr amldro pan fyddwch gartref ac allan. Mae cynhyrchu plastig yn arwain at lawer o allyriadau carbon felly bydd hyn yn gostwng eich ôl troed dŵr a charbon.
  • Peidiwch â rhoi eitemau poeth yn yr oergell nac yn y rhewgell. Os gadewch i’ch gweddillion oeri cyn eu rhoi yn yr oergell, bydd angen llai o egni gan yr oergell i'w cadw'n oer. Eich oergell yw un o'r pethau sy’n defnyddio’r mwyaf o ynni yn eich cartref felly mae unrhyw effeithlonrwydd ychwanegol yn helpu.
  • Glanhewch eich oergell yn amlach. Gallwch leihau'r ynni y mae eich oergell yn ei ddefnyddio drwy glirio unrhyw fwyd nad ydych yn mynd i'w fwyta. Pan fydd bwyd yn eistedd yn yr oergell, mae'n cymryd lle ac egni. Cliriwch eich oergell bob wythnos ond peidiwch â'i gadael yn rhy wag, neu fel arall ni fydd yn cynnal ei thymheredd oer.
  • 18) Arbedwch, ailddefnyddiwch ac ailgylchwch gymaint o’ch gwastraff ag sy’n bosibl. Mae hyn yn cynnwys ailgylchu unrhyw hen ddillad yn hytrach na'u taflu. Drwy leihau faint o wastraff rydych yn ei gynhyrchu ac ailgylchu mwy, gallai allyriadau o gartref cyffredin ostwng gan 0.25 tunnell bob blwyddyn
  • Os oes gennych le yn eich gardd, ystyriwch gompostio bwyd heb ei goginio fel pilio llysiau neu ffrwythau gartref yn hytrach na defnyddio gwasanaethau compostio'r Cyngor. Ond mae'n rhaid rhoi'r holl fwyd dros ben sydd wedi'i goginio yn y cadi gwastraff bwyd i'w gasglu.
  • Ymunwch â Carwch Eich Cartref grŵp gwirfoddol i helpu'r gymuned rydych chi'n byw ynddi.
  • Bwytewch fwyd ffres, tymhorol a gynhyrchir yn lleol. Mae hyn yn lleihau allyriadau carbon a ddaw drwy brosesu, storio a chludo.
  • Coginiwch yn ‘gampus’ gymaint â phosibl. Y ffordd fwyaf ecogyfeillgar o goginio yw defnyddio top stof neu ficrodon.
  • Os oes gennych le yn eich gardd, tyfwch eich ffrwythau, eich llysiau a'ch perlysiau eich hun gartref.
  • Ceisiwch fod yn fegan neu’n llysieuol am un diwrnod yr wythnos, mae lleihau faint o gig a llaeth a fwytwn yn lleihau allyriadau carbon.
Capital Ambition | Uchelgais Prifddinas
Logo Caerdydd Un Blaned
Cardiff Council | Cyngor Caerdydd

Mae’n aml yn cymryd digwyddiad effaith fawr i newid agweddau tuag at yr hinsawdd – felly gadewch i ni obeithio y bydd y tywydd eithafol diweddar yn helpu i godi’r awydd i fynd i’r afael â’r broblem

Liz Bentley, pennaeth y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol, Gorffennaf 2021

Cysylltwch â ni ar-lein




    Vector of a cardiff street and train station