Ein gweledigaeth ar gyfer Dinas Carbon Niwtral erbyn 2030

Caerdydd Un Blaned - ymateb strategol i’r argyfwng hinsawdd.

Mae Newid yn yr Hinsawdd eisoes yn llywio ein bywydau. Rydym yn byw mewn argyfwng hinsawdd gyda rhybuddion a thystiolaeth amlwg yn fyd-eang bod angen gweithredu ar frys os ydym am osgoi’r peryglon sydd o’n blaenau. Mae’r Strategaeth Caerdydd Un Blaned (6mb PDF) yn cynnig ystod eang o gamau gweithredu uchelgeisiol a fydd yn dechrau bod yn sail i gynllun cyflawni i sicrhau dinas Carbon Niwtral. Ei nod yw gwneud hyn mewn ffordd sy’n cefnogi economïau gwyrdd newydd a mwy o les cymdeithasol yn y ddinas.

Darllenwch ein datganiad i’r wasg ar y strategaeth .

Darllenwch ein Cynllun Gweithredu (9mb PDF) .

Darllenwch ein hadolygiad diweddaraf o’r cynllun Gweithredu (4mb PDF) .

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y diweddaraf:

One Planet globe

Mae gan Gyngor Caerdydd darged i fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030 Mae gwaith wedi dechrau gyda phartneriaid ledled y ddinas i ddatblygu map ffordd a chynllun gweithredu ar gyfer Dinas Carbon Niwtral erbyn 2030.

Polluted skies vs green environment
Os na wnawn unrhyw beth
Os byddwn yn gweithredu nawr

Lle rydym arni nawr – Dadansoddiad Carbon

Os ydym am i Gaerdydd fod yn garbon niwtral, yna un o’r pethau y mae angen i ni ei wybod yw faint o nwyon tŷ gwydr yr ydym ni fel y Cyngor yn gyfrifol amdanynt a faint mae dinas Caerdydd yn ei chyfanrwydd yn ei gynhyrchu.

Er ein bod wedi bod yn gweithio ar leihau ein hôl troed carbon ers blynyddoedd, dewison ni 2019/20 fel ein blwyddyn sylfaenol ac rydym wedi bod yn mesur ein cynnydd ers hynny. Drwy wneud hyn rydym yn gweithredu’n unol â chanllawiau adrodd Llywodraeth Cymru.

Dangosodd llinell sylfaen carbon y Cyngor mai 42,211 tunnell o CO2 e oedd swm yr allyriadau uniongyrchol yn 2019/20. Dangosodd y ffigwr hwnnw ostyngiad o 11.7% yn 2022/23, i 37,284 tunnell CO2 e.

Dyma sut mae’r allyriadau hynny’n cael eu dadansoddi:

Allyriadau Gweithredol y Cyngor KgCO2 c

Yn 2019 amcangyfrifwyd mai bron i 1.8 miliwn tunnell o CO2e  oedd swm yr allyriadau blynyddol ar draws y ddinas gyfan. Mae’r data diweddaraf sydd ar gael ar gyfer 2021 yn dangos gostyngiad o lai nag 1% ers 2019, sef 1.78 miliwn tunnell CO2e. Mae’r data ledled y ddinas yn tynnu sylw arbennig at effeithiau cyfyngiadau symud Covid a dychwelyd i fusnes yn ôl yr arfer wedi hynny.

Dyma ddadansoddiad o hynny:

Carbon dinas gyfan 2021 (1.78m tunnell CO2 e)

Carbon dinas gyfan 2021
Math Tunnell CO2 e Canran
Trafnidiaeth 617.4 34.5%
Domestig 472.5 26.4%
Diwydiant 315.4 17.6%
Sector Cyhoeddus 134.5 7.5%
Rheoli gwastraff 127.2 7.1%
Masnachol 97.5 5.5%
Amaethyddiaeth 14 0.8%
LULUCF Net Emissions 8.6 0.5%

Beth rydym yn ei wneud – Ein prosiectau

Dysgwch am y camau rydym yn eu cymryd i weithredu ar yr hinsawdd.

Lamby Way Solar Farm from the air credit Dave Powell Aerial Photography Wales

Mae fferm solar Ffordd Lamby yn cynhyrchu 9MW (megawat) o drydan gwyrdd. Mae hynny’n ddigon i bweru 2,900 o gartrefi.

Gall fod yn her gwneud lle i gynhyrchu ynni mewn dinas drwchus fel Caerdydd. I fynd i’r afael â hyn, mae’r fferm solar ar hen safle tirlenwi. Mae bellach gan y safle fwy o fioamrywiaeth, sydd hefyd yn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr Caerdydd.

Yn ogystal â lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr Caerdydd, mae’r prosiect wedi cynyddu bioamrywiaeth trwy hau hadau planhigion gwyllt a darparu llochesau ar gyfer yr ymlusgiaid, ystlumod ac adar prin sy’n byw ar y safle.

Radyr Weir in flow

Mae Taith Taf yn un o lwybrau teithio llesol hynaf Caerdydd ac mae bellach yn gartref i orsaf bŵer trydan dŵr arloesol. Mae’r cynllun ynni dŵr yn cynhyrchu bron i hanner megawat o drydan gwyrdd. Mae hynny’n ddigon i bweru 550 o gartrefi.

Mae’r cynllun ynni dŵr yn defnyddio dŵr o Afon Taf i droi 2 dyrbin sgriw Archimedes. Mae’r tyrbinau yn creu’r pŵer. Rydym yn gweithio’n barhaus ar y cynllun ynni dŵr i sicrhau ein bod yn cynhyrchu cymaint o ynni â phosibl.

Mae cynnal iechyd yr afon hefyd yn ffocws allweddol. Mae’r cynllun ynni dŵr yn defnyddio technoleg llwybr pysgod i sicrhau nad oes tarfu ar lwybrau mudol y pysgod.

Heat distribution pipes at the incinerator

Bydd Rhwydwaith Gwres Caerdydd yn defnyddio gwres dros ben o losgwr gwastraff i ddarparu gwres cynaliadwy i adeiladau ym Mae Caerdydd.

Mae’r llosgwr yn llosgi gwastraff na ellir ei ailgylchu i gynhyrchu stêm. Mae’r stêm yn pweru tyrbinau i gynhyrchu 250GWh (gigawat yr awr) o drydan. Mae’r rhwydwaith gwres yn dal y gwres o’r stêm hwn ac yn ei ddefnyddio i ddarparu gwres a dŵr poeth.

Ni fydd adeiladau sy’n cysylltu â’r rhwydwaith angen eu boeler nwy eu hunain mwyach a bydd eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr yn gostwng hyd at 80%.

Bydd y prosiect yn arbed dros 10,000 tunnell o allyriadau carbon. Mae hyn yn fras yr un fath â’r carbon sy’n cael ei gynhyrchu o wresogi 3,700 o gartrefi.

Disgwylir i’r gwaith o adeiladu’r rhwydwaith gwres gael ei gwblhau erbyn diwedd 2024.

One Planet Cardiff Day three photos taken at No Mow Parks and playing fields in Rumney Cardiff.Greenway Road Recreation ground & New Road Recreation Ground.31st May 2024

Rhaglen plannu coed 10 mlynedd yw Coed Caerdydd. Y nod yw cynyddu gorchudd coed Caerdydd o 18.9% i 25% o arwynebedd tir y ddinas.

Mae 82,000 o goed eisoes wedi’u plannu ar draws 280 o safleoedd gyda chymorth nifer o adrannau’r Cyngor a bron i 3,000 o wirfoddolwyr.

Dyma enghreifftiau o’r safleoedd:

  • Parc Trelái yng Nghaerau,
  • Ysgol Gynradd Coed Glas yn Llanisien, a
  • Lleiniau ymyl Heol Danyrodyn ym Mhentyrch.

Bydd y coed hyn yn cymryd tua 2,540 tunnell o garbon deuocsid allan o’r atmosffer dros y 100 mlynedd nesaf. Byddant hefyd yn darparu cysgod a chynefin ar gyfer bywyd gwyllt ac yn gwella gwydnwch llifogydd.

Cathys Terrace cycle lanes, regreening street planting areas.Park Place new rainwatewr harvesting location Parc Mackenzie.Final location Central Cardiff Electric Bus services and cycle lanes on Casle street 29th May 2024

Mae teithio llesol yn rhan allweddol o uchelgais Caerdydd i greu dinas wyrddach ac iachach. Rydym wedi adeiladu 7 milltir o feicffyrdd wedi’u gwahanu i annog pobl i ddewis teithio llesol.

Mae beicffyrdd wedi’u gwahanu yn cael eu hadeiladu i ffwrdd o’r ffordd gan helpu beicwyr i deimlo’n ddiogel wrth deithio.

Ar ôl cwblhau’r rhwydwaith, bydd yn llawer haws beicio ledled y ddinas a thu hwnt. Bydd y beicffyrdd yn cysylltu â gorsafoedd trafnidiaeth gyhoeddus, fel gorsafoedd bysus a threnau.

One Planet Cardiff Day one photos taken Cathys Terrace cycle lanes, regreening street planting areas.Park Place new rainwatewr harvesting location Parc Mackenzie.Final location Central Cardiff Electric Bus services and cycle lanes on Casle street

Mae systemau draenio cynaliadwy (SDCau) yn helpu i reoli dŵr wyneb (glawiad) a lleihau perygl llifogydd. Rydym eisoes wedi cyflwyno SDCau ar draws y ddinas, gan gynnwys yn:

  • Grangetown
  • Sgwâr Canolog (Stryd Wood)

Mae gan gynlluniau SDCau nodweddion fel gerddi glaw. Mae’r cynlluniau yn gwneud ardal yn wyrddach ac yn gwella bioamrywiaeth.

Mae dros 52,000 m2 o ddŵr wyneb wedi’i dynnu o’r rhwydwaith dŵr gwastraff ac yn llifo’n syth i Afon Taf oherwydd y cynllun Grangetown Werddach a chynllun y Sgwâr Canolog. Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 10 o gaeau pêl-droed. O ganlyniad, mae llai o risg y bydd carthffosydd yn gorlifo yn yr ardaloedd hyn.

Flood Defence Scheme works credit Knights Brown

Trwy gynllun arfordirol Caerdydd, byddwn yn gosod dros 80,000 tunnell o graig ar y lan a wal fetel i ddyfnder o 19m ar hyd ymyl Afon Rhymni.Mae 80,000 tunnell oddeutu 2,500 o lorïau biniau.

Bydd hyn yn amddiffyn De-ddwyrain Caerdydd rhag tonnau a’r llanw am y 100 mlynedd nesaf.

Rydym wedi diogelu’r cynllun at y dyfodol er mwyn ystyried rhagfynegiadau newid hinsawdd yn y dyfodol. Mae hefyd wedi’i ddylunio i wrthsefyll digwyddiad tywydd galw unwaith mewn 200 mlynedd.

Disgwylir i’r cynllun gael ei gwblhau erbyn haf 2027.

One Planet Cardiff  New council housing Trenchard Drive Llanishen with Solar PV plus Air source Heat Pumps and electric car charging facilities

Rydym wedi partneru gyda Wates Residential i greu Cartrefi Caerdydd. Mae Cartrefi Caerdydd yn adeiladu tai cyngor a phreifat ynni-effeithlon newydd.

Yn y Mynydd Bychan, mae cynllun gyda 42 o gartrefi sydd:

  • yn ynni-isel,
  • wedi’u hinswleiddio’n dda iawn, ac
  • yn fforddiadwy.

Bydd y cartrefi yn helpu i leihau defnydd ynni ac allyriadau carbon y preswylwyr. Mae hyn hefyd yn helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd.

Ar Croft Street ym Mhlasnewydd, mae cynllun gyda 9 tŷ cyngor dwy ystafell wely sydd wedi’u hadeiladu i safon Passivhaus. Dylai’r cartrefi fod â chostau rhedeg isel oherwydd y nodweddion ynni-effeithlon, fel y ffaith bod y cartref yn aerdyn ac wedi’i inswleiddio’n dda. Mae gan y cartrefi erddi cefn preifat, man storio beiciau a biniau, a gerddi ffrynt bach i greu lle rhwng y cartref a’r palmant. Mae’r cynllun yn ymgorffori system draenio dinesig cynaliadwy a seilwaith gwyrdd i sicrhau nad yw dŵr storm yn effeithio ar y system ddraenio bresennol.

Dysgwch fwy am effeithlonrwydd ynni yn eich cartref.

Children at a school talking about power usage

Mae 60 o ysgolion wedi llofnodi ein haddewid Un Blaned. Trwy lofnodi’r addewid, maent wedi cytuno i lunio cynllun gweithredu i ddangos sut y byddant yn helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chyflawni nodau’r strategaeth Caerdydd Un Blaned. Rydym yn grymuso pobl ifanc i ddod yn ‘Hyrwyddwyr Newid’ ac i yrru’r newid ymddygiad yn eu hysgol.

Mae’r ysgolion sydd wedi llofnodi’r addewid wedi gweld:

  • gostyngiadau yn swm yr ynni y maent yn ei ddefnyddio,
  • cynnydd yn eu dealltwriaeth o newid hinsawdd, a
  • bioamrywiaeth yn cael ei hadfer yn eu rhannau o’r ddinas.

Ysgol Gynradd Sant Padrig yn Grangetown yw un o’r ysgolion sydd wedi gweithredu i wella bioamrywiaeth. Mae’r disgyblion wedi defnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu i greu bwydwyr adar. Yna maen nhw’n cadw cofnod o’r bywyd gwyllt sy’n ymweld â’r ysgol er mwyn iddyn nhw allu mesur y gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud. Nid oes llawer o fannau gwyrdd yn yr ysgol, felly mae’r disgyblion hefyd wedi bod allan yn y gymuned yn plannu bylbiau. Mae’r holl waith gwych hwn wedi’i gofnodi mewn ffilm a wnaed gan y disgyblion i godi ymwybyddiaeth o golli bioamrywiaeth.

Windmil in a field

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu’r gwaith o gynhyrchu Cynlluniau Ynni Ardal Leol ar gyfer pob cyngor yng Nghymru.

Mae CYAL Caerdydd yn ddogfen gynghorol sy’n amlinellu gweledigaeth ar gyfer y ffordd y gallai ynni carbon sero-net edrych yn 2025. Rhai o’r prif amcanion yw gosod:

  • mesurau ynni-effeithlon ac inswleiddio mewn 91,000 o gartrefi,
  • 160,000 o bympiau gwres mewn eiddo domestig a masnachol i symud i ffwrdd o nwy fel ffynhonnell wres,
  • 26,000 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan at ddefnydd y cyhoedd ac at ddefnydd deiliad tai,
  • paneli solar ar ben toeau 100,000 o eiddo i gynhyrchu 510mw (megawat) o bŵer,
  • ffermydd solar ar y ddaear i gynhyrchu 120mw o bŵer,
  • tyrbinau gwynt i gynhyrchu 19mw o bŵer.
One Planet Cardiff School children at St John Lloyd RC Primary School Rumney have a class in the school  Edible Garden

Rydym wedi lleihau effaith carbon Caerdydd drwy brynu bwyd cynaliadwy mewn ysgolion a mentrau lleihau gwastraff ledled y ddinas.

Mae’r cynllun Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion Cymru yn cefnogi ffermio lleol, organig ac adfywiol, ac yn lleihau allyriadau cludo bwyd. Gall hefyd ddarparu addysg amgylcheddol i fyfyrwyr trwy ymweliadau â ffermydd.

Mae rhwydwaith o oergelloedd cymunedol yn helpu i leihau gwastraff bwyd drwy alluogi cymunedau i rannu bwyd dros ben. Mae prosiect Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, sy’n cael ei arwain gan FareShare hefyd yn archwilio dulliau o drawsnewid bwyd dros ben yn brydau maethlon i gymunedau lleol.

Ffyrdd y gallwch helpu

  • Gosodwch fesurydd deallus i'ch helpu i ddeall a rheoli'r defnydd o ynni a chostau.
  • Gwiriwch yr inswleiddio yn eich llofft, drysau a ffenestri i atal gwres rhag dianc ac i leihau eich biliau a'ch ôl troed carbon. Os ydych yn byw mewn llety rhent gwnewch yn siŵr bod eich landlord yn ymwybodol o'r rheolau ynghylch effeithlonrwydd ynni ac anogwch ef i ymchwilio i gyfleoedd Gwella
  • Newidiwch i dariff ynni gwyrdd. Mae hyn yn golygu dewis cyflenwr a thariff sydd ond yn cael ynni gan gynhyrchwyr adnewyddadwy fel gwynt, solar neu Dreulio Anaerobig. Gallai hyn leihau allyriadau gan 79%, gan arbed 1.25 tunnell o CO2 y flwyddyn ar gyfer y cartref cyffredin.
  • Ystyriwch osod paneli PV solar neu ddŵr poeth solar yn eich cartref.
  • Inswleiddiwch eich cartref i leihau drafftiau a swm y gwres a gollir. Wrth arbed ynni drwy inswleiddio’n well, gwresogi neu gyfarpar doethach, gallai'r aelwyd ar gyfartaledd leihau ei hallyriadau carbon gan 0.6%.
  • Ystyriwch faint o ynni rydych chi'n ei ddefnyddio. A allech chi ddefnyddio llai neu ddiffodd offer i arbed carbon ac arian? Gall gostwng eich gwres gan 1°C arbed 3% ar eich biliau ynni.
  • Os ydych chi’n cael budd-dal sy’n dibynnu ar ‘brawf modd’ neu os oes gennych gyflwr iechyd sy’n gwaethygu mewn cartref oer ac rydych yn byw mewn eiddo preifat aneffeithlon, gallech fod yn gymwys i gael cymorth NYTH i osod mesurau effeithlonrwydd ynni.
  • Gwirfoddolwch gyda'n Tîm Ceidwaid y Parc Ceidwaid y Parc neu ymunwch â Grŵp Cyfeillion parc lleol sydd â diddordeb cyffredin mewn materion bioamrywiaeth.
  • Defnyddiwch eich gardd mewn modd mwy cynaliadwy drwy blannu coed a llwyni neu dyfu ffrwythau a llysiau fel dewis amgen i balmantu, glaswellt artiffisial neu ddec.
  • Pan fo'n bosibl cerddwch neu beiciwch er mwyn osgoi allyriadau carbon yn gyfan gwbl.
  • Ystyriwch newid i gerbyd trydan neu gerbyd hybrid os ydych yn newid eich car gan y gallai hyn arbed 2 dunnell o garbon y flwyddyn. Os nad yw hyn yn fforddiadwy, dewiswch gerbyd diesel neu betrol mwy effeithlon, gan y gallai hyn arbed 0.9 tunnell o CO2 bob blwyddyn.
  • Meddyliwch sut y newidiodd eich patrymau teithio a sut y gwnaethoch siopa'n lleol yn ystod y cyfnod cloi, a gweld a allwch chi barhau â'r arferion hyn yn y dyfodol.
  • Rhowch unrhyw eitemau mawr nad oes eu hangen arnoch ac rydych chi am eu taflu i rywun mewn angen neu sefydliad sy'n eu cymryd. Gellir ailddefnyddio ac ailddosbarthu'r eitemau hyn i rywun arall mewn angen.
  • Wrth sychu dillad, os yw'r tywydd yn caniatáu, sychwch eich dillad gan ddefnyddio llinell ddillad neu awyrydd yn hytrach na pheiriant sychu.
  • Defnyddiwch botel ddŵr amldro pan fyddwch gartref ac allan. Mae cynhyrchu plastig yn arwain at lawer o allyriadau carbon felly bydd hyn yn gostwng eich ôl troed dŵr a charbon.
  • Peidiwch â rhoi eitemau poeth yn yr oergell nac yn y rhewgell. Os gadewch i’ch gweddillion oeri cyn eu rhoi yn yr oergell, bydd angen llai o egni gan yr oergell i'w cadw'n oer. Eich oergell yw un o'r pethau sy’n defnyddio’r mwyaf o ynni yn eich cartref felly mae unrhyw effeithlonrwydd ychwanegol yn helpu.
  • Glanhewch eich oergell yn amlach. Gallwch leihau'r ynni y mae eich oergell yn ei ddefnyddio drwy glirio unrhyw fwyd nad ydych yn mynd i'w fwyta. Pan fydd bwyd yn eistedd yn yr oergell, mae'n cymryd lle ac egni. Cliriwch eich oergell bob wythnos ond peidiwch â'i gadael yn rhy wag, neu fel arall ni fydd yn cynnal ei thymheredd oer.
  • 18) Arbedwch, ailddefnyddiwch ac ailgylchwch gymaint o’ch gwastraff ag sy’n bosibl. Mae hyn yn cynnwys ailgylchu unrhyw hen ddillad yn hytrach na'u taflu. Drwy leihau faint o wastraff rydych yn ei gynhyrchu ac ailgylchu mwy, gallai allyriadau o gartref cyffredin ostwng gan 0.25 tunnell bob blwyddyn
  • Os oes gennych le yn eich gardd, ystyriwch gompostio bwyd heb ei goginio fel pilio llysiau neu ffrwythau gartref yn hytrach na defnyddio gwasanaethau compostio'r Cyngor. Ond mae'n rhaid rhoi'r holl fwyd dros ben sydd wedi'i goginio yn y cadi gwastraff bwyd i'w gasglu.
  • Ymunwch â Carwch Eich Cartref grŵp gwirfoddol i helpu'r gymuned rydych chi'n byw ynddi.
  • Bwytewch fwyd ffres, tymhorol a gynhyrchir yn lleol. Mae hyn yn lleihau allyriadau carbon a ddaw drwy brosesu, storio a chludo.
  • Coginiwch yn ‘gampus’ gymaint â phosibl. Y ffordd fwyaf ecogyfeillgar o goginio yw defnyddio top stof neu ficrodon.
  • Os oes gennych le yn eich gardd, tyfwch eich ffrwythau, eich llysiau a'ch perlysiau eich hun gartref.
  • Ceisiwch fod yn fegan neu’n llysieuol am un diwrnod yr wythnos, mae lleihau faint o gig a llaeth a fwytwn yn lleihau allyriadau carbon.

climate action wales logo

Gallwch fynd i wefan Gweithredu ar Hinsawdd Cymru i gael gwybod am newidiadau syml bob dydd y gallwch eu gwneud i leihau eich effaith ar y blaned.

Straeon preswylwyr Caerdydd

Darganfyddwch beth mae rhai o drigolion Caerdydd yn ei wneud i fod yn wyrddach.

Mae prynu ychydig yn llai ac ailgylchu ychydig yn fwy yn un o’r dewisiadau gwyrdd allweddol y gallwn ni i gyd eu gwneud o ddydd i ddydd. Yng Nghaerdydd yn unig, mae ailgylchu yn arbed tua £11 miliwn y flwyddyn, yn ogystal ag arbed tua 36,000 o dunnelli o allyriadau carbon ac mae un cartref yng Nghaerdydd yn benodol yn gwneud i ailgylchu edrych yn hawdd – y llynedd dim ond 6 bag du o wastraff na ellir ei ailgylchu y gwnaethon nhw eu rhoi allan.

Meddai Heather, sy’n byw yn Sblot, “Dydw i ddim yn meddwl am y peth nawr mewn gwirionedd, dyna beth rydyn ni’n ei wneud. Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o bethau dim ond trwy eu gadael allan i Gyngor Caerdydd eu casglu neu fynd â nhw i ganolfan ailgylchu, ac mae llwyth o gynlluniau bach ar gael ar gyfer pethau na ellir eu hailgylchu fel hyn – fel pecynnau pothelli meddyginiaeth. Gellir mynd â nhw i Superdrug.”

Heather

Heather, yn golchi jariau a chaniau cyn eu rhoi allan i gael eu hailgylchu neu ailddefnyddio’r jariau.

Er mai dim ond dau berson sydd yn eu cartref, sydd, y mae Heather yn cyfaddef, yn ei wneud yn haws, mae hi’n argyhoeddedig y gallai’r rhan fwyaf o bobl greu ychydig yn llai o wastraff, ac ailgylchu ychydig yn fwy.

“Rydyn ni’n siopa cryn dipyn mewn siopau dim gwastraff,” meddai. “Dydw i byth yn taflu jar i ffwrdd nawr, ac mae’n llawer rhatach, yn enwedig ar gyfer pethau fel sbeisys, ac os ydych chi’n cael hylif golchi llestri, gall fod yn hanner y pris am nad ydych chi’n talu am becynnu, ac mae llawer o ddeunydd pacio plastig untro archfarchnadoedd o hyd, na ellir ei ailgylchu.”

Ond nid Heather yn unig sy’n elwa o’i harfer ailgylchu, ond y gymuned leol hefyd. “Mae’r holl grwpiau bach ar y cyfryngau cymdeithasol a ddaeth i’r amlwg yn ystod Covid yn wych ar gyfer ailgylchu. Os oes rhywbeth nad oes ei angen arna i bellach, dwi’n rhoi neges allan – mae wastad rhywun sydd yn dweud “ooh, galla i ddefnyddio hwnna.

“Eleni rydyn ni’n gobeithio ailgylchu hyd yn oed yn fwy – dim ond newydd roi ein hail fag du o’r flwyddyn allan ydyn ni.”

Mae’r cynllun ailgylchu ‘didoli sach’ newydd sy’n cael ei gyflwyno ar draws y ddinas eisoes yn cynyddu faint o wastraff yng Nghaerdydd y gellir ei ailgylchu – mae’r ffigyrau ailgylchu diweddaraf yn dangos bod modd ailgylchu tua 92% o’r gwastraff sy’n cael ei gasglu o gartrefi preswylwyr drwy’r system newydd. O dan y cynllun casglu bagiau gwyrdd cymysg dim ond 70% o’r deunydd a gesglir sy’n gallu cael ei ailgylchu.

Heather, sorting her plastic recycling into a red sack.

Heather, yn didoli ei hailgylchu plastig mewn sach goch.

Ar ôl cael ei gasglu, mae gwastraff na ellir ei ailgylchu yng Nghaerdydd yn cael ei losgi yng Nghyfleuster Adfer Ynni Viridor a’i ddefnyddio i greu digon o drydan i bweru 30,000 o gartrefi.

Fel rhan o’i strategaeth Caerdydd Un Blaned ar gyfer dinas garbon niwtral, mae Cyngor Caerdydd hefyd yn agos at gwblhau adeiladu Rhwydwaith Gwres Ardal carbon isel newydd. Bydd y Rhwydwaith Gwres yn cysylltu â chyfleuster Viridor ac yn trosglwyddo gwres gormodol, a grëwyd fel sgil-gynnyrch yn ystod llosgi, trwy rwydwaith o bibellau i adeiladau cyhoeddus mawr ym Mae Caerdydd, gan ddarparu gwres carbon isel a dŵr poeth iddynt a lleihau eu hallyriadau tua 80%.

Mae gwastraff gardd hefyd yn cael ei ailgylchu a’i droi’n gompost, a defnyddir rhywfaint ohono i helpu i dyfu blodau ym mharciau Caerdydd, tra bod gwastraff bwyd yn cael ei brosesu mewn cyfleuster treulio anaerobig a weithredir gan Dŵr Cymru a’i ddefnyddio i greu digon o fio-nwy i bweru 2,000 o gartrefi.

Er gwaethaf hyn, mae Heather yn dal i gredu mai lleihau’r gwastraff rydym yn ei greu, drwy brynu llai ac ailddefnyddio ac ailgylchu cymaint ag y gallwn, yw’r dewis iawn. “Os ydych chi’n meddwl am yr holl garbon sydd ynghlwm â’r pethau rydyn ni’n eu prynu, yr holl ynni sy’n cael ei ddefnyddio i’w creu, mae’n gwneud synnwyr. Ar ben hynny, mae’n rhatach – ac mae pob dewis gwyrdd bach yn golygu dyfodol mwy disglair i bob un ohonom. Os alla i wneud hynny, gall y rhan fwyaf o bobl wneud.”

Prif gyngor Heather ar gyfer ailgylchu mwy:

  1. Creu llai o wastraff yn y lle cyntaf – bydd prynu ychydig yn llai yn arbed arian i chi, yn ogystal â lleihau allyriadau a chreu llai o becynnu i’w waredu.
  2. Siopa yn eich siop ddiwastraff leol – efallai y bydd yn rhatach hefyd.
  3. Gwneud defnydd o grwpiau cymunedol lleol ar y cyfryngau cymdeithasol – mae’n well rhoi rhywbeth i ffwrdd na’i daflu i ffwrdd.
  4. Edrych yn y siop lle gwnaethoch brynu cynnyrch ar gyfer cynlluniau ailgylchu yn y siop.
  5. Os nad ydych yn siŵr a ellir ailgylchu rhywbeth ai peidio, neu sut i wneud hynny, ewch i A i Y o Ailgylchu Cyngor Caerdydd ar-lein.
Caroline with her bike

Caroline gyda’i beic yn un o lwybrau beicio ar wahân newydd Caerdydd.

Gyda 37 milltir o lwybrau di-draffig i ffwrdd o’r ffordd, a saith milltir o feicffyrdd ar ffyrdd Caerdydd bellach wedi’u gwahanu’n ddiogel oddi wrth draffig, mae beicio’n ffordd wych, i’r rhai sy’n gallu, i fynd yn gyflym ac yn ddiogel o A i B tra’n arbed arian ac yn cadw’n heini ac yn iach.

Mae’r llwybrau beicio wedi’u gosod fel rhan o gynllun Caerdydd Un Blaned Cyngor Caerdydd sy’n galluogi pobl sy’n byw, gweithio ac ymweld â’r ddinas i wneud dewisiadau mwy gwyrdd – fel dewis cerdded a beicio yn lle mynd yn y car – a chreu llwybr i ddinas garbon niwtral.

Ond os ydych chi’n debyg i Caroline o’r Rhath, a oedd, meddai hi, yn “feiciwr nerfus” gall y posibilrwydd o fynd ar eich beic am y tro cyntaf ddal i beri braw.

“Doeddwn i byth yn un o’r plant hynny oedd yn byw ar feic,” eglura Caroline. “Ond pan o’n i’n mynd i deithio dramor, o’n i’n byw yn rhywle lle mai beic oedd yr opsiwn gorau i gyrraedd y gwaith. Dyna oedd y dechrau i mi.”

Bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae Caroline yn beicio bob dydd. “Dwi’n teimlo’n dda ar y beic. Dwi’n beicio bron bob dydd o’r flwyddyn, boed law neu hindda – does dim y fath beth â thywydd gwael, dim ond dillad gwael.”

“Dwi wir yn hoffi bod tu allan ar y beic, mae o mor foddhaus bod yn y lôn feicio a gweld yr holl draffig yn llonydd!”

“Dwi wir yn hoffi dechrau’r diwrnod ar y beic, dwi’n cyrraedd y gwaith a dwi ddim yn teimlo dan straen. Mae gen i ddwy swydd, un yng Nghaerdydd ac un yn Sir Fynwy y mae’n rhaid i mi yrru iddi, a dwi wir yn sylwi ar y gwahaniaeth ar y dyddiau hynny.”

Ond nid dim ond y manteision lles mae Caroline yn eu mwynhau – mae arbed arian yn ffactor mawr. “Ar ôl i chi gael eich beic, ac efallai ei fod yn £50 i gael beic ail-law, dyna ddechrau arni. Rwy’n gwybod nad yw hynny’n rhad i bawb, ond unwaith y bydd gennych chi un, mae am ddim ac nid oes angen i chi dalu am barcio, talu am docyn bws. Hefyd, does dim rhaid i chi aros am unrhyw un, aros am fws, aros mewn traffig.”

Ond sut ydych chi’n mynd o fod yn nerfus o feicio i’w wneud bob dydd?

“Ymarfer yn gyntaf – mae’r Cyngor yn rhedeg cyrsiau hyfforddiant beicio oedolion am ddim i unrhyw un sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yng Nghaerdydd neu, os ydych ychydig yn fwy hyderus, yna efallai ewch o gwmpas y parc ar y penwythnos, pan fo chi’n rhydd, heb frys.

“Gwnewch hi’n hwyl fel eich bod chi eisiau mynd ar y beic ac yna, unwaith y byddwch chi’n gyfforddus, gallwch chi ddechrau ar y stryd lle mae traffig.”

“Mae hefyd yn werth cynllunio’ch llwybr, felly gallwch chi feddwl ble mae’r lonydd beicio. Mae yna fap cerdded a beicio am ddim sydd ar gael a all helpu gyda hynny.”

Reuben and his car

Reuben, yn gwefru ei gerbyd trydan

Fel Therapydd Galwedigaethol, mae Reuben Morris yn treulio ei ddyddiau’n gyrru ar strydoedd Caerdydd i ymweld â chleientiaid yn eu cartrefi. Ef yw’r cyntaf i gyfaddef y byddai’n “anodd iawn” gwneud ei waith heb gar – ond chwe blynedd yn ôl, fe wnaeth y dewis gwyrdd a newid i gerbyd trydan a nawr, er gwaethaf y milltiroedd y mae’n eu gwneud bob dydd, dyw e byth yn gwario ceiniog ar betrol.

“Ges i Nissan Leaf rhad ar Gumtree a hynny,” eglura Reuben, “oedd fy llwybr i mewn i dechnoleg werdd. Ers hynny, mae wedi dod yn dipyn o ddibyniaeth. Sylweddolais y gallwn ei wefru o baneli solar, ac aeth popeth o’r fan honno. Nawr mae gennym fatris storio a phwmp gwres hefyd ac mae ein cyflenwr ynni’n ein talu ni!”

Trafnidiaeth yw achos mwyaf allyriadau carbon yng Nghaerdydd – yn rhoi cyfrif am 35% o’r 1.78 miliwn o dunelli o CO2e sy’n cael ei gynhyrchu yn y ddinas bob blwyddyn, felly mae pob dewis gwyrdd sy’n cael ei wneud gan bobl fel Reuben heddiw – boed hynny’n cerdded neu’n beicio ychydig yn fwy neu’n newid i gerbyd trydan – yn ychwanegu at ddyfodol mwy disglair yfory.

Gyda rhwydwaith cynyddol o ryw 200 o wefrwyr cerbydau trydan sydd ar gael i’r cyhoedd bellach ar gael yng Nghaerdydd, a disgwylir i fwy gael eu cyflwyno fel rhan o ymateb Caerdydd Un Blaned Cyngor Caerdydd i’r argyfwng hinsawdd yn ogystal â chan y sector preifat, mae’r seilwaith i gefnogi cerbydau trydan yn gwella, ond mae Reuben yn cyfaddef iddo fod yn bryderus am bellter batri’r car i ddechrau.

“Prynais y car o Abertawe. Ges i’r trên lan i’w gasglu a’i yrru’n ôl a dwi’n cofio dod nôl a bod yn ofnus iawn na fyddwn yn cyrraedd – ond mae hynny wedi lleihau. Nid wyf erioed wedi rhedeg allan o bŵer mewn 6 blynedd, felly dwi byth yn poeni amdano. Nid yw’n gerbyd trydan â phellter batri arbennig o uchel, ond os nad oes gennych y math hwnnw o swydd, os nad ydych yn gynrychiolydd gwerthu neu rywbeth tebyg, anaml y byddwch yn neidio yn y car ac yn gyrru 300 milltir – mae pob man yng Nghaerdydd yn gwbl hygyrch i mi.”

“Dwi’n bragmatig amdano serch hynny – mae gen gerbyd gwersylla sy’n cael ei bweru gan betrol i’w ddefnyddio ar gyfer gwyliau ac ambell daith – ond ni fyddaf yn cael car petrol eto os oes gen i ddewis. Mae’r profiad gyrru yn llawer gwell a dwi’n ddigon ffodus i fod â thramwyfa, felly dwi’n plygio i mewn gartref, yn ei wefru dros nos ac mae gymaint yn fwy cyfleus na defnyddio gorsafoedd petrol.”

Gyda cherbyd trydan yn gwneud y rhan fwyaf o’i deithiau car, a chan mai allyriadau domestig o bethau fel goleuadau a gwres yw’r ail ffynhonnell fwyaf o allyriadau yng Nghaerdydd, trodd sylw Reuben at ychwanegu hyd yn oed mwy o dechnoleg werdd i’w gartref.

Nawr, gyda phaneli solar ar ei do a batri i storio’r ynni, ynghyd â phwmp gwres o’r ddaear i gynhesu ei gartref teuluol diwedd teras a adeiladwyd yn y 1970au, mae ei ynni – gan gynnwys gwres, dŵr poeth a thrydan – yn costio tua £10 y mis iddo am y rhan fwyaf o’r flwyddyn. Yna, o fis Mai i fis Awst, pan fydd ei gartref yn cynhyrchu mwy o ynni solar nag y gall ef a’i deulu ei ddefnyddio, mae’r ynni sydd heb ei ddefnyddio’n cael ei allforio i’r Grid Cenedlaethol, ac mae ei gwmni ynni yn ei dalu ef.

Mae hynny i gyd tua £320 o elw ar ynni bob blwyddyn – ynghyd â’r arbedion mae Reuben yn eu gwneud o beidio talu am betrol.

“Mae gen i solar dwyrain-gorllewin, ac nid dyma’r cynllun a argymhellir, ond mae gen i baneli ar ddwy ochr y to ac ar hyn o bryd, rwy’n gwefru fy ngherbyd, yn gwneud fy holl filltiroedd gwaith, fy holl filltiroedd siopa, yr holl ddefnydd sylfaenol o’r car, ac mae gen i ddŵr poeth o’r pwmp gwres ac ar hyn o bryd, “mae’n ychwanegu gyda gwên, “Rwy’n cael tua £100 y mis gan fy nghyflenwr ynni.

“Hyd yn oed yn ystod y gaeaf, pan mae angen i ni fewnforio rhywfaint o drydan o’r grid, mae’r solar yn dal i wneud gwahaniaeth i’n biliau. Nid ydyn ni wedi gorfod newid ein hymddygiad o gwbl, rydyn ni’n byw fel arfer gydag e – yr unig beth rydyn ni wedi’i ddarganfod, diolch i’n mesurydd deallus, yw bod y gawod drydan yn defnyddio cymaint o drydan â gwefru car, felly rydyn ni’n tueddu i gael bath!

“Mae ‘na lawer o wybodaeth negyddol ar gael am bympiau gwres, ond maen nhw’n eu defnyddio nhw yn Sgandinafia ac maen nhw’n gweithio – ni sydd yn hwyr i’r parti. Mae’n sicr yn gweithio i’n tŷ ni. Fy mhrofiad i yw ei fod yn llawer mwy cyfforddus, drwy’r amser.

“Dwi’n meddwl am hyn i gyd fel buddsoddiad – ry’n ni’n agosáu at ymddeol ac mae’r syniad y bydd costau ynni yn lleihau wrth i ni fynd yn hŷn yn fonws go iawn.”

Logo Cryfach, Tecach, Gwyrddach
Logo Caerdydd Un Blaned
Cardiff Council | Cyngor Caerdydd

Mae’n aml yn cymryd digwyddiad effaith fawr i newid agweddau tuag at yr hinsawdd – felly gadewch i ni obeithio y bydd y tywydd eithafol diweddar yn helpu i godi’r awydd i fynd i’r afael â’r broblem

Liz Bentley, pennaeth y Gymdeithas Feteorolegol Frenhinol, Gorffennaf 2021

Cysylltwch â ni ar-lein

    * Gofynnol




    Vector of a cardiff street and train station