Ein gweledigaeth ar gyfer Dinas Carbon Niwtral erbyn 2030
Caerdydd Un Blaned - ymateb strategol i’r argyfwng hinsawdd.
Mae’r Strategaeth ddrafft Caerdydd Un Blaned (10mb PDF) yn cynnig ystod eang o gamau gweithredu uchelgeisiol a fydd yn dechrau bod yn sail i gynllun cyflawni i sicrhau dinas Carbon Niwtral. Ei nod yw gwneud hyn mewn ffordd sy’n cefnogi economïau gwyrdd newydd a mwy o les cymdeithasol yn y ddinas.
Darllenwch ein datganiad i’r wasg ar y strategaeth .
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y diweddaraf:
Mae’r amser wedi dod i ni gymryd camau brys a phendant ac mae’r Cyngor eisoes wedi datgan argyfwng hinsawdd i gydnabod hyn. Mae Strategaeth Caerdydd Un Blaned yn nodi ein hymateb strategol i’r argyfwng hwn.
7 Prif Thema’r Strategaeth
Ynni
Mae hyn yn cynnwys sut mae ynni’n cael ei ddefnyddio, sut mae’n cael ei gyrchu, ei ddosbarthu a’i gynhyrchu. Ein nod yw defnyddio llai, cael mwy o ffynonellau adnewyddadwy glân, a helpu i adeiladu busnes o amgylch y sector cynyddol hwn.
Rheoli Gwastraff
Drwy leihau cynhyrchiant gwastraff, gan wneud penderfyniadau caffael ystyrlon, a thrwy ailgylchu’r gwastraff a gynhyrchir yn y ffordd gywir, gallwn leihau ein hôl troed carbon. Rydym hefyd yn cydnabod y gall gwastraff penodol fod yn ffynhonnell ynni carbon-isel bwysig, gan helpu i adeiladu gweithgarwch economaidd newydd, glân, lleol a gwydn.
Amgylchedd Adeiledig ac Ansawdd Tai
Mae hyn yn cynnwys adeiladau a seilwaith sy’n bodoli eisoes ac sy’n cael eu cynllunio. Mae angen i ni wella effeithlonrwydd ynni a gwydnwch ein hadeiladau a’n cymunedau newydd a phresennol yn gyson, a manteisio ar y sgiliau a’r swyddi sydd eu hangen i gyflawni hyn er budd yr economi leol.
Bwyd
Mae cynhyrchu, cludo, prosesu a gwaredu bwyd yn ffynhonnell fawr o allyriadau ac mae ein cynigion wedi’u hanelu at gefnogi systemau bwyd gwell, mwy lleol a mwy cymdeithasol deg, a allai hefyd roi hwb i’r economi fwyd leol.
Seilwaith Gwyrdd
Mae angen diogelu a gwella ein mannau gwyrdd a’n bioamrywiaeth hanfodol. Rhaid i ni gymryd camau beiddgar i ychwanegu at asedau gwyrdd naturiol y ddinas gan wneud lle iach, glân, amgylcheddol gadarnhaol llawn bioamrywiaeth lle gall dinasyddion a busnes ffynnu.
Dŵr
Mae’r ffordd yr ydym yn cyrchu, defnyddio a rheoli dŵr, a sut yr ydym yn amddiffyn ein hunain rhag sychder a llifogydd yn rhannau hanfodol o’n hamcanion o feithrin gwydnwch hinsawdd ac mae’r strategaeth yn amlinellu cyfres o ymatebion i’r her hon nawr ac yn y dyfodol.
Trafnidiaeth
Mae angen i ni edrych yn fanwl ar sut yr ydym yn symud o amgylch y ddinas ac ar y seilwaith sydd ei angen i leihau effaith allyriadau cerbydau ac ansawdd aer. Ein cynlluniau yw disodli cynifer â phosibl o deithiau tanwydd ffosil defnyddwyr unigol gyda dulliau teithio carbon-isel cynaliadwy, tra’n sicrhau nad ydynt yn arwain at broblemau mewn mannau eraill.
Ein siwrnai at Ddinas Un Blaned
Helpwch ni i ddod yn Ddinas Niwtral o ran Carbon
Mae’r ddogfen hon yn nodi ein huchelgais i fod yn Caerdydd Un Blaned (CUB) ac rydym yn galw ar y ddinas i weithio gyda ni a mabwysiadu nod o fod yn ddinas Carbon Niwtral erbyn 2030.
Mae gennym gyfle unigryw i adeiladu ar y newid enfawr yn y ffordd rydym yn gweithio ac yn byw y bu’n rhaid i ni ei wneud mewn ymateb i COVID-19, gan gadw rhai o’r manteision amgylcheddol allweddol a llunio ein hadferiad i wreiddio gwydnwch hinsawdd ledled Caerdydd, gyda thegwch, lles, cynaliadwyedd a thwf gwyrdd llewyrchus i bawb wrth wraidd yr adferiad.
Ffyrdd y gallwch helpu
- Gosodwch fesurydd deallus i'ch helpu i ddeall a rheoli'r defnydd o ynni a chostau.
- Gwiriwch yr inswleiddio yn eich llofft, drysau a ffenestri i atal gwres rhag dianc ac i leihau eich biliau a'ch ôl troed carbon. Os ydych yn byw mewn llety rhent gwnewch yn siŵr bod eich landlord yn ymwybodol o'r rheolau ynghylch effeithlonrwydd ynni ac anogwch ef i ymchwilio i gyfleoedd Gwella
- Newidiwch i dariff ynni gwyrdd. Mae hyn yn golygu dewis cyflenwr a thariff sydd ond yn cael ynni gan gynhyrchwyr adnewyddadwy fel gwynt, solar neu Dreulio Anaerobig. Gallai hyn leihau allyriadau gan 79%, gan arbed 1.25 tunnell o CO2 y flwyddyn ar gyfer y cartref cyffredin.
- Ystyriwch osod paneli PV solar neu ddŵr poeth solar yn eich cartref.
- Inswleiddiwch eich cartref i leihau drafftiau a swm y gwres a gollir. Wrth arbed ynni drwy inswleiddio’n well, gwresogi neu gyfarpar doethach, gallai'r aelwyd ar gyfartaledd leihau ei hallyriadau carbon gan 0.6%.
- Ystyriwch faint o ynni rydych chi'n ei ddefnyddio. A allech chi ddefnyddio llai neu ddiffodd offer i arbed carbon ac arian? Gall gostwng eich gwres gan 1°C arbed 3% ar eich biliau ynni.
- Os ydych chi’n cael budd-dal sy’n dibynnu ar ‘brawf modd’ neu os oes gennych gyflwr iechyd sy’n gwaethygu mewn cartref oer ac rydych yn byw mewn eiddo preifat aneffeithlon, gallech fod yn gymwys i gael cymorth NYTH i osod mesurau effeithlonrwydd ynni.
- Gwirfoddolwch gyda'n Tîm Ceidwaid y Parc Ceidwaid y Parc neu ymunwch â Grŵp Cyfeillion parc lleol sydd â diddordeb cyffredin mewn materion bioamrywiaeth.
- Defnyddiwch eich gardd mewn modd mwy cynaliadwy drwy blannu coed a llwyni neu dyfu ffrwythau a llysiau fel dewis amgen i balmantu, glaswellt artiffisial neu ddec.
- Pan fo'n bosibl cerddwch neu beiciwch er mwyn osgoi allyriadau carbon yn gyfan gwbl.
- Ystyriwch newid i gerbyd trydan neu gerbyd hybrid os ydych yn newid eich car gan y gallai hyn arbed 2 dunnell o garbon y flwyddyn. Os nad yw hyn yn fforddiadwy, dewiswch gerbyd diesel neu betrol mwy effeithlon, gan y gallai hyn arbed 0.9 tunnell o CO2 bob blwyddyn.
- Meddyliwch sut y newidiodd eich patrymau teithio a sut y gwnaethoch siopa'n lleol yn ystod y cyfnod cloi, a gweld a allwch chi barhau â'r arferion hyn yn y dyfodol.
- Rhowch unrhyw eitemau mawr nad oes eu hangen arnoch ac rydych chi am eu taflu i rywun mewn angen neu sefydliad sy'n eu cymryd. Gellir ailddefnyddio ac ailddosbarthu'r eitemau hyn i rywun arall mewn angen.
- Wrth sychu dillad, os yw'r tywydd yn caniatáu, sychwch eich dillad gan ddefnyddio llinell ddillad neu awyrydd yn hytrach na pheiriant sychu.
- Defnyddiwch botel ddŵr amldro pan fyddwch gartref ac allan. Mae cynhyrchu plastig yn arwain at lawer o allyriadau carbon felly bydd hyn yn gostwng eich ôl troed dŵr a charbon.
- Peidiwch â rhoi eitemau poeth yn yr oergell nac yn y rhewgell. Os gadewch i’ch gweddillion oeri cyn eu rhoi yn yr oergell, bydd angen llai o egni gan yr oergell i'w cadw'n oer. Eich oergell yw un o'r pethau sy’n defnyddio’r mwyaf o ynni yn eich cartref felly mae unrhyw effeithlonrwydd ychwanegol yn helpu.
- Glanhewch eich oergell yn amlach. Gallwch leihau'r ynni y mae eich oergell yn ei ddefnyddio drwy glirio unrhyw fwyd nad ydych yn mynd i'w fwyta. Pan fydd bwyd yn eistedd yn yr oergell, mae'n cymryd lle ac egni. Cliriwch eich oergell bob wythnos ond peidiwch â'i gadael yn rhy wag, neu fel arall ni fydd yn cynnal ei thymheredd oer.
- 18) Arbedwch, ailddefnyddiwch ac ailgylchwch gymaint o’ch gwastraff ag sy’n bosibl. Mae hyn yn cynnwys ailgylchu unrhyw hen ddillad yn hytrach na'u taflu. Drwy leihau faint o wastraff rydych yn ei gynhyrchu ac ailgylchu mwy, gallai allyriadau o gartref cyffredin ostwng gan 0.25 tunnell bob blwyddyn
- Os oes gennych le yn eich gardd, ystyriwch gompostio bwyd heb ei goginio fel pilio llysiau neu ffrwythau gartref yn hytrach na defnyddio gwasanaethau compostio'r Cyngor. Ond mae'n rhaid rhoi'r holl fwyd dros ben sydd wedi'i goginio yn y cadi gwastraff bwyd i'w gasglu.
- Ymunwch â Carwch Eich Cartref grŵp gwirfoddol i helpu'r gymuned rydych chi'n byw ynddi.
- Bwytewch fwyd ffres, tymhorol a gynhyrchir yn lleol. Mae hyn yn lleihau allyriadau carbon a ddaw drwy brosesu, storio a chludo.
- Coginiwch yn ‘gampus’ gymaint â phosibl. Y ffordd fwyaf ecogyfeillgar o goginio yw defnyddio top stof neu ficrodon.
- Os oes gennych le yn eich gardd, tyfwch eich ffrwythau, eich llysiau a'ch perlysiau eich hun gartref.
- Ceisiwch fod yn fegan neu’n llysieuol am un diwrnod yr wythnos, mae lleihau faint o gig a llaeth a fwytwn yn lleihau allyriadau carbon.
Byddwn yn gosod targed i weithrediadau’r Cyngor fod yn rhai Carbon Niwtral erbyn 2030 a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ledled y ddinas i ddatblygu map ffordd a chynllun gweithredu ar gyfer Dinas Carbon Niwtral erbyn 2030